Conwy Wledig

Conwy Wledig

Rural Home

Kickstarter Conwy Wledig
Conwy Rural Kickstarter

Cerrigydrudion

Llanfhangel Glyn Myfyr

Llangwm

Pentrefoelas

Llansannan

Llannefydd

Llanfiartalhaearn

Llangernyw

Bro Garmon

Ysbyty Ifan

Bro Machno

Llanrwst

Eich Lleoedd ● Eich Cymunedau ● Eich Cynllun

Beth yw'r prosiect hwn?

Comisiynwyd Cymorth Cynllunio Cymru gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ymchwilio i gyfleoedd datblygu ar gyfer cymunedau yn ardaloedd Clocaenog a ffermydd gwynt Clocaenog Brenig. Amcanion y prosiect yw eich helpu chi i gychwyn:
  • Deall anghenion a dymuniadau’r bobl yn eich cymunedau,
  • Adeiladu darlun eglur o’r prif heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu eich ardal(oedd),
  • Nodi prosiectau a gweithgareddau a ellid eu hariannu,
  • Paratoi ‘templed’ cynllun a ellir ei ddefnyddio gan bob cymuned yn unigol, neu wrth gydweithio, i greu eich cynlluniau eich hunain.

Dweud eich dweud!

Mae amrywiaeth o ffyrdd y gallwch chi ddweud eich dweud am yr hyn ddylai fod yn y prosiect hwn:

Glasdir,_Llanrwst_-_geograph.org.uk_-_1716918

Digwyddiad

Ymunwch â ni yn Glasdir yn Llanrwst ar 14eg Rhagfyr, 4-7yh ar gyfer ein gweithdy taflu syniadau.
Cliciwch yma i archebu.

Arolwg

Cymerwch ein harolwg ar-lein i rannu eich barn am ble rydych chi'n byw.
Cliciwch yma i gwblhau'r arolwg.

SaaS-2.png

E-bost

Cyflwynwch eich cyfeiriad e-bost i dderbyn y diweddariadau diweddaraf ar y prosiect. Rhowch eich manylion yn y ffurflen isod.

Beth fydd allbynnau’r prosiect?

Erbyn Rhagfyr 31ain, bydd Cymorth Cynllunio Cymru yn paratoi ‘Adroddiad ar Opsiynau Datblygu Conwy Wledig’. Bydd yr adroddiad yn cynnwys:

  • Proffil o’r ardal gyfan
  • Proffiliau ‘cychwynnol’ byr ar bob cymuned y gallwch adeiladu arnynt yn y dyfodol.
  • Canllawiau ar greu Cynllun Cymuned / Cynllun Cynefin.
  • Templed cynllun gweithredu y gallwch ei ddefnyddio i ddatblygu eich cynllun eich hun.
  • Astudiaethau achos ar ystod o brosiectau cymunedol a ariannwyd gan gynlluniau ynni adnewyddadwy.

Dolenni i ganllawiau pellach ar:

  • Ymgysylltu ymhellach â’ch cymunedau.
  • Cynllunio’n strategol gyda’ch cymuned.
  • Casglu tystiolaeth a arweinir gan y gymuned.
  • Cynhyrchu Cynlluniau Cynefin.
  • Astudiaethau achos prosiectau a arweinir gan y gymuned.
  • Cyflwyno cais am gyllid.

Allwch chi helpu hyd yn oed ymhellach?

Os hoffech chi gymryd rhan neu gael gwybod am y cynnydd, llenwch y ffurflen isod.

Os byddai’n well gennych, gallwch gysylltu â ni un ai ar:

[email protected]

02921660986

Cysylltwch â ni / Ymunwch â’n rhestr bostio:

Signup Welsh